SL(5)348 - Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (“Rheoliadau 2016”) mewn perthynas â gwneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau am ganiatâd cynllunio i osod llinellau trydan uwchben. 

Mae gosod llinellau trydan uwchben sydd â foltedd enwol o 132KV neu lai ac sy’n gysylltiedig â gorsafoedd cynhyrchu datganoledig yng Nghymru, yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol (“DAC”) yn rhinwedd Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/53, Cy.23) (“Rheoliadau 2016”), fel y’u diwygiwyd.

O dan baragraff 1 o Atodlen 4D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, caniateir i swyddogaethau penodedig Gweinidogion Cymru mewn perthynas â DAC gael eu cyflawni gan berson a benodir. 

Mae rheoliad 2(3) yn mewnosod rheoliad 11A newydd yn Rheoliadau 2016, er mwyn rhagnodi swyddogaethau penodedig mewn cysylltiad â llinellau trydan uwchben. 

Mae rheoliad 2(5) yn mewnosod rheoliad 18A newydd, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer adroddiad gan y person penodedig ar ôl i gais gael ei ystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig.  Mae’r rheoliad newydd hefyd yn caniatáu i wrandawiad neu ymchwiliad gael ei gynnal os bydd y person penodedig wedi ystyried tystiolaeth newydd neu faterion newydd o ffaith. 

Mae rheoliad 2(6) yn mewnosod rheoliad 28A newydd, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau a ystyrir drwy wrandawiad, ac sydd hefyd yn gymwys i geisiadau yr ymdrinnir â hwy drwy ymchwiliad.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol pellach i Reoliadau 2016. 

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg.

Mae rheoliad 2(13)(b) yn mewnosod paragraff 8A newydd yn Atodlen 1 i Reoliadau 2016. Dylai testun Cymraeg y Rheoliadau nodi “fel petai” yn y pharagraff 8A newydd yn lle “fel a ganlyn”. Mae'r testun Saesneg yn nodi “as if”.

Mae'r un peth yn digwydd eto yn Rheoliad 2(14)(b), sy'n mewnosod paragraff (8) newydd yn Atodlen 8 i Reoliadau 2016.  Eto, yn y paragraff (8) newydd, dylid nodi “fel petai” yn lle “fel a ganlyn”. Mae'r testun Saesneg yn nodi “as if”.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

13 Mawrth 2019